Ti'n Feddyg mawr a Ffynnon gaf

1,2,3,4,(5).
(Crist yn bob peth)
Ti'n Feddyg mawr a Ffynnon gaf
  I bechod ac afendid:
Golch fi o'm beiau, fawr a mān,
  Fel byddwy'n lān a hyfryd.

O golch fi beunydd, golch fi'n lān,
  Golch fi yn gyfan Arglwydd;
Fy nwylaw a'm calon, pen a'm traed,
  Golch fi ā'th waed yn ebrwydd.

Bedyddia fi ā'r Ysbryd Glān,
  Fel tān pwerus nerthol;
Caiff ysbryd, barn, a llosgfan fod,
  Ar bechod yn wastadol.

Teyrnasa, Dduw, a bwrw i maes
  D'elynion cas gwrthwyneb;
Ar f'enaid llesg rho'th ddelw'n llawn,
  Nes dod i gyflawn burdeb.

Gwasgara weddill pechod cas
  Selia fi ā'th ras yn drigfan,
Yn berffaith hardd, yn demel wiw,
  Adeilad Duw ei Hunan.
William Williams 1717-91

Tonau [MS 8787]: Dymuniad (Robert H Williams 1805-76)

Gwelir:
  Bedyddia fi ā'r Ysbryd Glān
  Mi wna'm gorphwysfa dawel byth
  O (')golch fi beunydd golch fi'n lān
  Pa ham y digalonaf mwy?
  Sancteiddrwydd im' yw'r Oen di-nąm

(Christ as everything)
Thou a great Physician and a Well I have
  For sin and uncleanness:
Wash me from my faults, great and small,
  Thus I shall be pure and lovely.

O wash me daily, wash me pure,
  Wash me completely Lord;
My hands and my heart, head and my feet,
  Wash me with thy blood urgently.

Baptise me with thy Holy Spirit,
  Like a powerful, strong fire;
Spirit, judgment an burning shall be
  Upon sin constantly.

Reign, God, and cast out
  Thy hated, rebellious enemies;
Upon my feeble soul, fully put thy image,
  Until coming to full purity.

Scatter the rest of hated sin
  Seal me with thy grace as a dwelling,
Perfectly beautiful, as a worthy temple,
  A building of God himself.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~